Yr Addewid
Drwy lofnodi heddiw, rydych chi’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:
-
Gweithredu Cynllun Gweithlu Niwrolegol: Cynyddu niferoedd niwrolegwyr, nyrsys arbenigol a gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ledled Cymru.
-
Dod â’r loteri cod post i ben:Gweithredu’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn llawn, fel nad yw gofal yn dibynnu ar eich cyfeiriad.
-
Gwella adsefydlu niwrolegol: Cynyddu mynediad at wasanaethau adsefydlu a chymorth iechyd meddwl hanfodol.
-Buddsoddi mewn gofal: Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau niwrolegol a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n byw gydag MS a gofalwyr di-dâl.